Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Ebrill 2019
Amser:
09.32 -
12.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5346
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Sayed AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Delyth Jewell AC Caroline Jones AC David Melding AC Rhianon Passmore AC |
Tystion: |
Catrin James, Urdd Siân Lewis, Urdd Kathryn Williams, Rubicon Dance |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC a Vikki Howells AC.
1.3 Datganodd Rhianon Passmore AC fod ei mab yn cymryd rhan yn yr Urdd.
2.1 Dangoswyd fideo gan y ddau sefydliad i’r Aelodau.
2.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor.
2.3 Cytunodd cynrychiolwyr yr Urdd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am ei dull strategol ynghylch rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol.
3.1 Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i drafod y papur hwn yn ystod y rhan breifat o’r cyfarfod heddiw.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd yr Aelodau’r papur briffio cyfreithiol a’r ystyriaeth o’r materion allweddol.
7.1 Cytunodd yr Aelodau i rannu eu safbwyntiau â’r tîm clercio cyn trafod yr adroddiad eto yn y cyfarfod cyntaf yn dilyn toriad y Pasg.